Diolch yn fawr i chi a’r staff am eich cefnogaeth trwy gydol y daith. Mae wedi bod yn bleser i dreulio amser yng nghwmni criw o ddisgyblion talentog iawn. Maent wedi bod yn gyffaeliad i’w rhieni, yr ysgol a’u gwlad. Rydyn yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu arholiadau ac i’w hymdrechion i’r dyfodol. Fe fyddwn yn siwr o drysori’r atgofion melys o Ganada 2012.
A big thank you to all of you and the staff for your support throughout the tour. It has been a pleasure spending the past few days in the company of such a great bunch of talented young people. They have been a credit to their parents, school and country. We wish them well in their exams and future endeavours. We will certainly cherish the memories of Canada 2012.
Bois Maes Yr Yrfa yn fuddugol o 75-0 yn erbyn tîm talaith Quebec. Chwaraeodd y bois yn wych yn erbyn tîm a oedd yn disgwyl buddugoliaeth hawdd yn erbyn y Cymry. Adroddiad llawn a lluniau i ddilyn, ond dim heno!!
Maes Yr Yrfa boys are victorious against Quebec with a scoreline of 75-0. Our boys played excellently against a team tht fully expected to trounce the touring Welsh schoolboys. A full report with photos will follow, but not tonight!!
Diwrnod 6 a ma’ pethe’n mynd yn wlyb a gwyllt ar yr afon Ottawa. Brecwast cynnar cyn mwynhau diwrnod o ‘white water rafting’. Fe gafwyd profiadau newydd, bythgofiadwy gydag afon cyflym, lot o chwerthin a gwlychu’n llwyr! Fe wnaethon nhw fwynhau cinio ysgafn wrth ochr yr afon (gyda chyfleusterau ty bach cyntefig!), cyn mynd yn ôl ar yr afon i dywys y cwch ar y rhannau cyflymaf! Fe gafwyd amser anhygoel, gyda nifer o atgofion gydol oes.
Day 6, and things are getting wet and wild on the Ottawa river! An early start to begin a day of white water rafting. The pupils enjoyed a thrilling new experience with lots of rapids, laughing and getting completely soaked!! They enjoyed a light lunch at the river side (with basic washroom facilities!), before continuing with an afternoon of rafting on the larger falls. We all had a whale of a time and many memorable moments… as well as a farmers tan!
Bore da! Mae’r blog newydd gyrraedd 10,000 o ymweliadau – diolch yn fawr i chi am y gefnogaeth, a cofiwch adael neges i ni. Mae’r disgyblion yn hapus iawn i glywed eich negeseuon. Diolch eto!
Morning! The blog has just passed 10,000 views – thank you all for your support and remember to leave a message. The pupils are always excited/embarrassed to hear what messages you’ve left for them. Thanks again!